Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

ANIFEILIAID, CYMRU

BWYD, CYMRU

hADAU, CYMRU

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n berthnasol i adnabod gwartheg; y fasnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion perthynol; archwilio am weddillion a therfynau uchaf gweddillion mewn cysylltiad ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid; enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy; marchnata hadau ac iechyd planhigion.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 1(8) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2019 Rhif (Cy. )

YMADAEL Â’R UNDEB EWROPEAIDD, CYMRU

anifeiliaid, cymru

bwyd, cymru

HADAU, CYMRU

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1                  

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 8 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.

(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

2. Ym mharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 3 i Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007([2]), hepgorer is-baragraff (2).

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

3.(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 17, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—

(a)     yn lle “yw blwch 30, 31, 33 neu 34 o’r” rhodder “yw’r”; a

(b)     yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.

(3) Yn rheoliad 38, yn lle “masnach rhwng” rhodder “mewnforion o”.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

4. Yn rheoliad 30 o Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012([4]), yn lle’r geiriau “Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion” rhodder “Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran yr egino lleiaf o dan amodau a bennir yn unol â”. 

Diwygio Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018

5.(1) Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2, yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth heblaw am—

(a)     yn rheoliad 4, mae iddo’r ystyr a roddir i “third country” yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd; a

(b)     yn rheoliad 9 ac Atodlen 6, mae iddo’r ystyr a roddir yn Rheoliadau 2011. 

(3) Yn rheoliad 4(1) hepgorer “genedlaethol”, ac yn ei bennawd hepgorer “cenedlaethol”.

(4) Yn y pennawd i Atodlen 1, hepgorer “cenedlaethol”.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018

6. Yn rheoliad 5(6)(e) o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018([6]), yn lle “Gomisiwn yr UE” rhodder “Weinidogion Cymru”.

Diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019

7. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019([7]), yn y diffiniad o “sylwedd anawdurdodedig” (“unauthorised substance”) yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

8.(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 8(a)—

(a)     yn is-baragraff (i)—

                            (i)    yn y diffiniad a fewnosodwyd o “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—

(f)  o ran Beilïaeth Guernsey, Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith Taleithiau Guernsey;

(g)   o ran Beilïaeth Jersey, Adran yr Amgylchedd Taleithiau Jersey;

(h)   o ran Ynys Manaw, Adran yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaethyddiaeth Ynys Manaw;;

                          (ii)    ar ôl y diffiniad a fewnosodwyd o “y rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig”, mewnosoder—

ystyr “tiriogaeth ddibynnol ar y Goron” (“CD territory”) yw Beilïaeth Guernsey, Beilïaeth Jersey neu Ynys Manaw;;

(b)     yn lle is-baragraff (xxviii) rhodder—

  (xxviii) yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain;.

(3) Yn lle rheoliad 15 rhodder—

15. Yn erthygl 8—

(a)   ym mharagraff (1)—

                       (i)  yn lle “gyflwynir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall” rhodder “ddygir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall sy’n dod o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, neu i unrhyw ddeunydd esempt a ddygir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir”;

                      (ii)  ym mharagraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(h)”;

                     (iii)  ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)  erthygl 6A(1);;

                     (iv)  ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder— “(e) erthygl 12A;”;

(b)   ym mharagraff (3)—

                       (i)  yn is-baragraff (a), ar ôl “yw” mewnosoder “unrhyw un neu ragor o’r deunydd perthnasol a ganlyn sy’n tarddu o drydedd wlad, ac eithrio’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir”;

                      (ii)  ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)   ystyr “deunydd esempt” (“exempt material”) yw unrhyw feintiau bach o ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, ac eithrio planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu, planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu neu blanhigion, ac eithrio hadau, Platanus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;.

(4) Yn rheoliad 27—

(a)     ym mharagraff (a)—

                            (i)    yn nhestun is-baragraff (e) a amnewidiwyd, yn lle “o Brydain Fawr” rhodder “o’r Deyrnas Unedig neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

                          (ii)    yn nhestun is-baragraff (f) a amnewidiwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

(b)     ym mharagraff (b)—

                            (i)    yn nhestun is-baragraff (1B)(d) a fewnosodwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

                          (ii)    yn nhestun is-baragraff (1B)(e) a fewnosodwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

(5) Yn rheoliad 28—

(a)     ym mharagraff (b)—

                            (i)    yn nhestun paragraff (1)(a) a amnewidiwyd, ar y diwedd mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

                          (ii)    yn nhestun paragraff (1)(b) a amnewidiwyd, yn lle’r geiriau “o dan erthygl 12” rhodder “ar ran Gweinidogion Cymru o dan erthygl 12(1) neu gan neu ar ran awdurdod iechyd planhigion priodol arall y DU mewn dull cyfatebol;”;

                        (iii)    ar ôl testun paragraff (1)(b) a amnewidiwyd mewnosoder—

(c) yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir a ddygwyd i fan cyrraedd yn y Deyrnas Unedig, unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir ac yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru amdano yn unol ag erthygl 6(1), neu yr hysbyswyd awdurdod iechyd planhigion priodol y DU amdano yn unol â gofynion cyfatebol o dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.;

                        (iv)    yn nhestun paragraff (2)(a) a amnewidiwyd, ar y diwedd mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

                          (v)    yn lle testun paragraff (2)(b) a amnewidiwyd rhodder—

(b) unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu a ollyngir ar ran Gweinidogion Cymru o dan erthygl 12(1) neu gan neu ar ran awdurdod iechyd planhigion priodol arall y DU mewn dull cyfatebol;

(c)   yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir a ddygwyd i fan cyrraedd yn y Deyrnas Unedig, unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu—

        (i)  sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir; a

       (ii)  yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru amdano yn unol ag erthygl 6(1), neu yr hysbyswyd yr awdurdod iechyd planhigion priodol y DU amdano yn unol â gofynion cyfatebol o dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.;

                        (vi)    yn nhestun paragraff (3) a amnewidiwyd—

(aa)        yn y geiriau cyn is-baragraff (a), ar ôl “diriogaethau eraill y DU” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

(bb)       ar y diwedd mewnosoder—

(e) yn achos deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i diriogaeth ddibynnol ar y Goron, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir at ddibenion y paragraff hwn yn y ddeddfwriaeth iechyd planhigion sy’n gymwys yn y diriogaeth honno sy’n ddibynnol ar y Goron;

(b)     ar y diwedd mewnosoder—

(g)    ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11)  Ym mharagraffau (1) a (2), mae i “Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rhan 2 (gweler erthygl 3)..

(6) Yn rheoliad 34, yn lle paragraff (b) rhodder—

(b) ym mharagraff (4) yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—

(a) ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson sydd, wrth ei waith o fasnachu, rhedeg busnes neu broffesiwn, yn ymwneud â phlannu, bridio, cynhyrchu, mewnforio, marchnata neu ddosbarthu planhigion;

(aa)    ystyr “manylion a bennir” (“specified details”), mewn perthynas â lot, yw ei tharddiad, ei thraddodwr, ei thraddodai, ei chyrchfan, ei rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu rif swp unigol pasbort planhigion y DU, ei manylion adnabod a’i nifer;

(b)   ystyr “planhigion penodedig Xylella”
(“Xylella specified plants”) yw planhigion a bennir ym mharagraff 13 o Ran E o’r rhestr o ddeunydd a reolir sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn, neu wedi eu symud drwy—

        (i)  ardal a ddarnodir o dan baragraff 5 o Atodlen 15 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion neu, o ran yr Alban, o dan ddarpariaethau cyfatebol yng Ngorchmynion yr Alban; neu

       (ii)  tiriogaeth ddibynnol ar y Goron lle y cadarnhawyd bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol;

(7) Yn rheoliad 42(b)(i), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “y Deyrnas Unedig, tiriogaeth ddibynnol ar y Goron,”.

(8) Yn rheoliad 48(a), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

                    (ia)  hepgorer paragraffau (v) a (vi) o is-baragraff (a);.

(9) Yn rheoliad 51—

(a)     ym mharagraff (d)(viii) yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i’r Deyrnas Unedig neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;

(b)     ym mharagraff (e), yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “yn lle “yn rhywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “mewn un o diriogaethau eraill y DU neu mewn tiriogaeth ddibynnol ar y Goron””;

(c)     ym mharagraff (h), ar ôl testun paragraff 8(a) a fewnosodwyd, mewnosoder—

(aa)   mewn perthynas â deunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau—

                       (i)  a gynhyrchir yn Lloegr, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017([9]);

                      (ii)  a gynhyrchir yng Nghymru, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017([10]);

                       (c)  a gynhyrchir yn yr Alban, yn Rhan 2 o Atodlen 5 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017([11]);

                     (iv)  a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017([12]);.

 

 

 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2018 p. 16.

([2])           O.S. 2007/842 (Cy. 74), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.                          

([3])           O.S. 2011/2379 (Cy. 252), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([4])           O.S. 2012/245 (Cy. 39), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           O.S. 2018/650 (Cy. 122).

([6])           O.S. 2018/968 (Cy. 195), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([7])           O.S. 2019/XXX (Cy. XXX).

([8])           O.S. 2019/XXX (Cy. XXX).

([9])           O.S. 2017/595, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/131.

([10])         O.S. 2017/691 (Cy. 163), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([11])         O.S.A. 2017/177, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([12])         Rh.St. 2017 Rhif 119, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.